Arbenigwyr mewn ymchwil a datblygu gwyddor bywyd
Mae canolfannau rhagoriaeth mewn prifysgolion yng Nghymru ac Iwerddon yn dod at ei gilydd i gynnig cymorth technolegol a hwyluso cydweithio rhwng prifysgolion a diwydiant.
Mae CALIN, rhwydwaith gwyddor bywyd uwch sy’n cysylltu busnes, y byd academaidd a gofal iechyd ag arbenigwyr o chwe phrifysgol flaenllaw yng Nghymru ac Iwerddon, yn gyfle i ymwneud ag arweinwyr ym maes gwyddor feddygol a fferyllol uwch, nanotechnoleg a biotechnoleg. Mae’r rhwydwaith yn caniatáu mynediad at dechnoleg, arbenigedd gwyddonol, a rhwydwaith o arloeswyr gwyddor bywyd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau.
Mae’r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddor Bywyd Uwch (CALIN) yn rhan o raglen INTERREG Cymru-Iwerddon sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Cliciwch ar y logos partner isod am fwy o fanylion am eu sgiliau, arbenigedd y cyfleusterau. Am fanylion cymhwyster ar gyfer cydweithredu, cliciwch